WorldSkills UK yw'r enw ar gystadlaethau sgiliau o safon uchel sydd ar waith bob blwyddyn drwy gydol y DU. Diben y cystadlaethau yma yw annog pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban i ragori yn eu maes hwy o sgiliau galwedigaethol. Maen nhw'n cynyddu cyfranogaeth, hunan-barch a safonau mewn Prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol.
Bydd y mwyafrif o Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK wedi'u cynnal yn y Sioe Sgiliau ar 14-16 Tachwedd 2013.
Gallai'r cystadleuwyr gorau, 18-25 oed, sy'n rhagori yn y cystadlaethau WorldSkills UK dderbyn gwahoddiad i gystadlu am le yn y tîm sy'n cynrychioli'r DU yn ‘WorldSkills’, y gystadleuaeth sgiliau ryngwladol a gynhelir bob dwy flynedd. Bydd y gystadleuaeth WorldSkills ryngwladol nesaf yn Leipzig, yr Almaen yn 2013.
Gallwch gofrestru i gymryd rhan yn un o gystadlaethau WorldSkills UK o 11eg Chwefror hyd 22ain Mawrth 2013.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru'n cynnwys oddeutu 30 o gystadlaethau sgiliau lleol. Caiff y cystadleuwyr eu hannog i symud ymlaen a chymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK, lle bu 5,000 o bobl yn cymryd rhan y llynedd.
Llywodraeth Cymru sy'n ariannu Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac maent wedi'u rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a chyrff dan arweiniad cyflogwyr. Mae'r cystadlaethau'n rhad ac am ddim i gystadlu ynddynt ac yn rhedeg drwy gydol misoedd Chwefror a Mawrth fel arfer. Maent yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, pobl dan hyfforddiant a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau.
Os hoffech wybod rhagor neu gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, anfonwch neges e-bost at skillscompwales@colegsirgar.ac.uk







