Portffolio o 55 o gystadlaethau sgiliau sicr eu hansawdd yw WorldSkills UK. Cynhelir y cystadlaethau hyn yn flynyddol i annog pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ragori yn y maes sgiliau galwedigaethol y maent yn gysylltiedig â hi.
Nod y cystadlaethau yw annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol, ac anelir hefyd at feithrin hunan-barch y bobl hynny, a chodi safonau yn y maes. Gallai cystadleuwyr eithriadol rhwng 18 a 25 oed sy'n rhagori yng Nghystadlaethau WorldSkills UK gael eu gwahodd i gystadlu am le yn y tîm sy'n cynrychioli'r DU yn 'WorldSkills', y gystadleuaeth sgiliau rhyngwladol sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd.
Bydd y Gystadleuaeth WorldSkills nesaf yn cael ei chynnal yn Leipzig, yr Almaen yn 2013.
Mae Cystadlaethau Sgiliau Cymru yn cynnig tua 30 o gystadlaethau. Cynllun yw hwn sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i redeg gan rwydwaith penodedig o golegau addysg bellach a sefydliadau sy'n cael eu harwain gan gyflogwyr.
Mae'r cystadlaethau hyn yn rhad ac am ddim ac maent yn cael eu rhedeg gydol misoedd Chwefror a Mawrth 2012. Maent yn cynnig cyfle i brentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau.
Caiff y cystadleuwyr eu hannog hefyd i symud ymlaen i gymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK. Y llynedd, cymerodd tua 5000 o bobl ran yn y cystadlaethau hynny!

Dilynwch ni ar:
Good luck to everyone taking part in the Skills Competition Wales Accountancy final today at City of Newport Campus @coleggwent
Friday, April 27, 2012
It's the final day for entries to most WorldSkills UK competitions. Enter Now http://t.co/qjFaLsT8
Thursday, March 15, 2012
Live! Welsh Colleges Motor Vehicle Skills Competition @deesidecollege http://t.co/Uj2uzJk1
Friday, March 09, 2012